Llwybr Dyffryn Dyfrdwy

Llawer i’w weld, llawer i’w wneud

Taith Dyffryn Dyfrdwy – dyma gyfle bendigedig i fynd i weld a mwynhau dirgelion yr ardal hynod ddiddorol hon yng Ngogledd Cymru.

Gallwch ymuno â’r daith lle mynnwch - mae trên stêm yn teithio’n agos at ran helaeth ohoni. Ac o ran beth i’w weld a’i wneud nesaf - bydd gennych beth wmbredd o ddewisiadau cyffrous.

Beth am fynd i flasu cynnyrch arobryn cenedlaethol Ystad Rhug yn Fferm Organig Rhug, neu fynd i’r siop a chownter y cigydd sydd â chyflenwad da o fwydydd ar gyfer eich rhewgell. A gan eich bod yma, beth am fynd ar lwybr y fferm sy’n dilyn glannau Afon Dyfrdwy?

Gam neu ddau o’r fan hon mae tref hanesyddol Corwen, sy’n gyforiog o hanes diddorol Owain Glyndŵr. Mae’r dref farchnad brysur hon yn ymfalchïo yn y cysylltiad hanesyddol sydd ganddi â’r gwr hwn a oedd yn Dywysog Cymru. Yn 2007 cafodd cerflun newydd o Owain Glyndŵr ei ddadorchuddio yng nghanol y dref. Corwen hefyd yw’r fynedfa at Fynyddoedd y Berwyn ac mae sawl llwybr cerdded bendigedig yn arwain o’r dref hon y mae cerddwyr yn hoff iawn ohoni.

Filltir neu ddwy o Gorwen mae pentref Carrog, sydd wedi’i leoli mewn safle godidog. Fe’i gwelwch ar ei orau wrth ichi deithio – o orsaf sydd wedi’i hadfer i’w hen ogoniant – ar hyd rheilffordd sy’n dilyn y dyffryn trawiadol hwn. Neu beth am gerdded ar hyd y dyffryn eich hun?

Rheilffordd Glyndyfrdwy – dyma’ch cyfle i fynd ar y trên stêm i Langollen neu Garrog neu ddilyn Llwybr Dyffryn Dyfrdwy sy’n arwain at harddwch y mynyddoedd.

Ac wrth sôn am harddwch, ’does unman harddach na Bwlch yr Oernant – sy’n enwog am ei olygfeydd ardderchog a’i greigiau hynafol. Mae digonedd o lwybrau cerdded yn yr ardal hon ac wrth lwc mae Caffi Ponderosa ar agor ac yn gwerthu diod a bwyd poeth – perffaith ar ôl yr holl gerdded ’na!

Os ewch chi i lawr y bwlch fe ddewch chi at Abaty Glyn-y-Groes sydd wedi’i leoli mewn man hardd dros ben. Abaty Sistersaidd o’r 11eg ganrif ydyw lle’r oedd y mynachod yn byw, gweddïo a gweithio dros 800 mlynedd yn ôl.

Heb fod ymhell oddi wrth yr Abaty, mae Glanfa Llangollen - sy’n gartref i gychod camlas lliwgar iawn - cychod â motor a rhai a dynnir gan geffylau hefyd. Mae’r daith mewn cwch modur yn defnyddio Pont Cario Dŵr - a adeiladwyd gan Thomas Telford - i’ch cludo dros y dyffryn. Mae’r draphont yn 126 troedfedd o uchder, sy’n golygu y cewch chi olygfeydd bendigedig! Llangollen yw cartref yr Eisteddfod Gerddoriaeth Gydwladol flynyddol ac ni waeth pa adeg o’r flwyddyn yw hi mae’n werth ymweld â’r drefn hon sy’n berl. Siopau diddorol ac anarferol - mae’r dref yn llawn ohonynt - gan gynnwys siopau celfyddyd a chrefft, bwticau a siopau bwydydd tramor.

Yn olaf, beth am orffen eich taith mewn steil trwy fynd i weld Plas Newydd, lle’r oedd Boneddigesau Llangollen - dwy fenyw ddrwg-enwog - yn byw. Rhoddodd eu cyfeillgarwch anghonfensiynol ysgytwad aruthrol i Gymdeithas cyfnod y Rhaglywiaeth, ac fe wnaethant groesawu enwogion yr oes i’w cartref anghyffredin.

Map Rhyngweithiol

Cliciwch yma i weld map o'r pethau i'w lawrlqytho.

 

Dolenni defnyddiol