MEDI 25ain & 26ain 2010
Cymraeg / English

Mae pob taith yn rhad ac am ddim, ond rhaid archebu lle ymlaen llaw – i archebu, ffoniwch y rhif ffôn sy’n dilyn pob taith gan ddyfynnu enw’r daith a’r cyfeirnod. Bydd teithiau 2010 fel a ganlyn:
Dydd Sadwrn
Llwybr Gogledd y Berwyn – allan ar hyd Rheilffordd Llangollen gan ddychwelyd ar hyd Llwybr Gogledd y Berwyn. Arweinir gan John Kay. Pellter : tua 12 milltir
I archebu, ffoniwch 01978 860828 gan ofyn am Penwythnos Gerdded - Taith 1.
Crwydr Teuluol Dyffryn Dyfrdwy - eto, allan ar hyd Rheilffordd Llangollen gan ddychwelyd ar hyd Llwybr Dyffryn Dyfrdwy. Arweinir gan Lucy Morris. Pellter: tua 10 milltir. I archebu, ffoniwch 01978 860828 gan ofyn am Penwythnos Gerdded - Taith 2.
Helfa Drysor Teuluol - Taith olygfaol 4 milltir yn ymgorffori gêm arsylwi sy’n arwain at drysor go iawn! Darperir mapiau a nodiadau llwybr manwl (ewch chi ddim ar goll!), ond mae’r gweddill yn dibynnu arnoch chi. Mae’r Helfa Drysor yn arbennig o addas i deuluoedd gyda phlant oedran cynradd ond mae croeso i bawb fentro! - trefnir gan yr awdur teithio lleol Judith Smith. I archebu, ffoniwch 01978 860828 gan ofyn am Penwythnos Gerdded - Taith 3. Mae’r daith hon ar gael gydol ddydd Sadwrn, heb arweiniad a gellir cychwyn ar unrhyw adeg.
Camlas Llangollen a Choedwig Trefor – yn cychwyn o Basn Trefor (Cyf. Grid SJ 272422), taith hamddenol 6½ milltir yn cynnwys Camlas Llangollen a Choedwig Trefor – arweinir gan Anne a Tony Cooper. I archebu, ffoniwch 01978 860828 gan ofyn am Penwythnos Gerdded – Taith 4.
Taith Treftadaeth y Gamlas - taith hamddenol yn dathlu treftadaeth Dyffryn Dyfrdwy [manylion yn fuan].
Dydd Sul
Yr Her Treftadaeth : Yn cychwyn yn Llangollen, byddwch yn dringo Dinas Brân, yna’n cerdded ar hyd y Panorama (Llwybr Clawdd Offa) cyn croesi Traphont Dŵr Froncysyllte ac ymlaen i Gastell Y Waun. I ddiweddu, byddwch yn troi nôl am Langollen ar hyd y gefnen sy’n gwahanu Dyffryn Dyfrdwy a Dyffryn Ceiriog. Arweinir gan y tywysydd proffesiynol Bryn Hughes. Pellter : tua 14 milltir. I archebu, ffoniwch 01978 860828 gan ofyn am Penwythnos Gerdded - Taith 5.
Llwybr Dyffryn Dyfrdwy
15 milltir o gwmpas gogledd Afon Dyfrdwy rhwng Corwen a Llangollen.
Taflen PDF - 3.8Mb [agor mewn ffenestr newydd]
Llwybr Gogledd Berwyn
Llwybr 15 milltir sy’n dringo Mynyddoedd gwyllt Gogledd Berwyn i dde Afon Dyfrdwy. Mae modd cychwyn mewn nifer o fannau er mwyn cael teithiau byrrach.
Taflen PDF - 3.0Mb [agor mewn ffenestr newydd]
Taith Hanes Llangollen
Taith gylchol o gwmpas gogledd y dref gan gynnwys rhai o’r golygfeydd hynotaf a threftadaeth hyfryd gan gynnwys adfeilion mawreddog Abaty Valle Crucis.
Taflen PDF - 0.8Mb [agor mewn ffenestr newydd]
Taith Hanes Tref Llangollen (taflen)
Mae hon yn daith rhyw awr sy’n rhoi cipolwg ar hanes Llangollen – ar gael fel taflen. Llwybr hawdd.
Taith Geolegol Tref Llangollen (taflen)
Taith o gwmpas adeiladau a geoleg Llangolle. Caniatewch ryw awr. Taith hawdd.
Teithiau Corwen
Cyfres o deithiau byrion o ganol y dref sy’n rhoi cymysgedd o hanes a chefn gwlad.
Taflen PDF - 1.5Mb [agor mewn ffenestr newydd]
Bydd gwybodaeth ar y teithiau hyn ar gael ar ddydd Sadwrn 9.00am – 6pm o Dderbynfa’r Pafiliwn Rhyngwladol Brenhinol a thrwy’r penwythnos yn y Ganolfan Groeso, Stryd y Castell, Llangollen.
Rural Walks in Denbighshire (llyfryn)
24 taith fanwl, gyda graddfeydd, yn cynnig goreuon Dyffryn Clwyd, Dyffryn Dyfrdwy a’r Arfordir.
Slow walks around Ruthin – a guided tour (llyfryn)
Cyfres ragorol o deithiau ac arweiniad i’ch cyflwyno i hanes Rhuthun a’r cyffiniau.
A view of Denbighshire (llyfryn)
Arweiniad cyffredinol da i drefi, treftadaeth a chefn gwlad y Sir.