MEDI 25ain & 26ain 2010
Cymraeg / English

Digwyddiad newydd ydi hwn yn Nyffryn Dyfrdwy, Gogledd Cymru – cynhaliwyd y digwyddiad cyntaf yn 2009 a oedd yn cynnwys agoriad Canolfan Ddringo Llangollen a chroesawodd y dref 100oedd o gerddwyr i gyfres o ddigwyddiadau a theithiau tywysedig.
Eleni eto, bydd rhaglen penwythnos o deithiau cerdded tywysedig a hunanddewisol a bydd y digwyddiad yn gyfle i arddangos treftadaeth yr ardal, yn cynnwys Camlas Llangollen a Thraphont Dŵr Pontcysyllte, sydd newydd dderbyn statws Treftadaeth y Byd.
Teithiau cerdded cefn gwlad trawiadol
Safleoedd treftadaeth
Teithiau cerdded tywysedig a hunanddewisol
Teithiau teuluol
Teithiau cyraeddadwy
Digwyddiadau dydd a gyda’r hwyr
Derbynfa gwybodaeth i gerddwyr gyda chyfleusterau newid a pharcio penodol i geir ger y Pafiliwn Cydwladol Brenhinol ar y dydd Sadwrn
Gostyngiadau i gerddwyr mewn bwytai a chaffis
Os hoffech wybodaeth bellach, cysylltwch â ni ac fe wnawn ein gorau i’ch helpu.

Llun : Kim Price